Rhifyn 29

Theori Cynrychioliad a Hynodion Cyniferydd Symplegol

Mae rhan gyntaf yr erthygl hon yn gyflwyniad anffurfiol i theori cynrychioliadau (representation theory) y grŵp cymesur (symmetric group). Mae’r erthygl wedi ei hanelu at y mathemategydd cyffredin nad yw’n gwybod unrhyw beth am theori cynrychioliadau. Yn yr ail ran, rydym yn esbonio, yn fwy cyffredinol, sut y gellir defnyddio theori cynrychioliadau i astudio hynodion cyniferydd symplectig (symplectic quotient singularities). Yn wir, gallwn ddefnyddio theori cynrychioliadau i benderfynu pan fo’r gofodau hynod hyn yn derbyn cydraniad crepant (crepant resolution).

Allweddeiriau

Theori cynrychioliadau, grŵp cymesur, hynodion cyniferydd, cydraniad crepant, grwpiau meidraidd, geometreg algebraidd.

Cyfeirnod

Bellamy, G. (2019), ‘Theori Cynrychioliad a Hynodion Cyniferydd Symplegol’, Gwerddon, 29, 81–98. https://doi.org/10.61257/ZQGY6617 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0002-7045-4177
Nôl i erthyglau