Rhifyn 29

‘Mae hergwd cyn bwysiced â hawl’: newid ymddygiad a pholisi’r iaith Gymraeg

Mae ymagwedd ymddygiadol at bolisi eisoes wedi trawsnewid ystod o feysydd polisi cyhoeddus. Diben yr erthygl hon yw datblygu’r berthynas rhwng ymagwedd ymddygiadol a pholisi a chynllunio iaith. Cynigia strategaethau iaith diweddar Llywodraeth Cymru dystiolaeth o’r berthynas eginol hon, ac mae’r uchelgais o filiwn o siaradwyr yn cynnig sbardun polisi amlwg i’r defnydd o fewnwelediadau ymddygiadol ac yn cyfrannu at arloesi ym maes polisi iaith. Esbonia’r erthygl fod y ddealltwriaeth o ymddygiad sydd wrth wraidd ymdrechion polisi’r iaith Gymraeg yn tueddu i bwysleisio nodweddion rhesymol ymddygiad. Dadleuir bod hyn yn esgeuluso dealltwriaethau amgen o ymddygiad ac arfau polisi megis yr hergwd.

Allweddeiriau

Polisi, polisi cyhoeddus, newid ymddygiad, polisi iaith, y Gymraeg.

Cyfeirnod

Elias, O. a Griffith, G. (2019), ‘"Mae hergwd cyn bwysiced â hawl": newid ymddygiad a pholisi’r iaith Gymraeg’, Gwerddon, 29, 59–80. https://doi.org/10.61257/LNUE6224  

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
Osian Elias: 0000-0002-4122-2457
Nôl i erthyglau