Rhifyn 29

Astudiaeth achos: effaith y cyfryngau digidol ar gynnwys a swyddogaeth O’r Pedwar Gwynt ac Y Stamp

Mae’r erthygl hon yn edrych ar ddylanwad y cyfryngau digidol ar y maes llenyddol Cymraeg cyfoes wrth ddisgrifio a chymharu dau gylchgrawn llenyddol sy’n cyfuno elfennau printiedig a digidol. Lansiwyd O’r Pedwar Gwynt ac Y Stamp yn ystod 2016, a bellach dyma’r unig ddau gyhoeddiad llenyddol yn y Gymraeg sydd â phresenoldeb cyson ar bapur ac ar-lein. Trwy eu dadansoddi caiff syniadau traddodiadol ynglyˆn â’r broses cynhyrchu llenyddol eu herio, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud â natur y gwrthrych llenyddol a rôl y cynhyrchwyr (golygyddion ac awduron) a’r derbynwyr (darllenwyr). Gan ddefnyddio cysyniadau sydd â’u gwreiddiau yn astudiaethau’r cyfryngau (Marshall McLuhan) a theori meysydd cymdeithasol (Pierre Bourdieu), rhoddir pwyslais ar bosibiliadau prosiectau sy’n cyfuno nodweddion cyfryngau a chynhyrchion llenyddol.

Allweddeiriau

Llenyddiaeth Gymraeg, cylchgrawn, astudiaethau’r cyfryngau, cyfryngau digidol, cydgyfeirio.

Cyfeirnod

Green, S. (2019), ‘Astudiaeth achos: effaith y cyfryngau digidol ar gynnwys a swyddogaeth O’r Pedwar Gwynt ac Y Stamp’, Gwerddon, 29, 6–27. https://doi.org/10.61257/WROU7002 

Nôl i erthyglau