Rhifyn 29

O’r ddrama gymdeithasol i’r pasiant: theatr yn y gyfnewidfa ddiwylliannol rhwng Cymru a gogledd-ddwyrain India

Mae’r erthygl hon yn defnyddio theatr fel modd i fewnsyllu ar gyfnewidfa ddiwylliannol Cymru a Bryniau Casia a Jaiñtia a wreiddir yn hanes Cenhadaeth Dramor y Methodistaid Calfinaidd Cymreig yng ngogledd-ddwyrain India rhwng 1841 ac 1969. Gan ganolbwyntio ar ddramâu Casi o’r cyfnod trefedigaethol yn ogystal ag enghraifft o berfformiad cenhadol a lwyfannwyd yng Nghymru yn 1929, cwestiynir i ba raddau y dylanwadodd canfyddiadau’r Cymry o theatr a’r ddrama ar berfformio brodorol Bryniau Casia, ac yn yr un modd, i ba raddau y dylanwadodd canfyddiad y cenhadon o India ar y syniad a’r gynrychiolaeth o’r wlad honno mewn portreadau perfformiadol ohoni yng Nghymru.

Allweddeiriau

Bryniau Casia, Casi, Khasi, India, cenhadon.

Cyfeirnod

Lewis, L. (2019), ‘O’r ddrama gymdeithasol i’r pasiant: theatr yn y gyfnewidfa ddiwylliannol rhwng Cymru a gogledd-ddwyrain India’, Gwerddon, 29, 28–58. https://doi.org/10.61257/XUJU9557 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0002-6739-6439
Nôl i erthyglau