Rhifyn 28

Datblygiad cystrawen y rhifolion yn y Gymraeg

Mae’r rheolau sy’n pennu treigladau a ffurfiau enwau ac ansoddeiriau ar ôl rhifolion mewn Cymraeg Canol yn aml yn peri dryswch i ddarllenwyr cyfoes. Mae’r erthygl hon yn braslunio’r rheolau a rhoi dadansoddiad synchronig ohonynt. Dangosir eu bod yn seiliedig ar system gydlynol lle mae rhif (unigol, deuol, rhifol, lluosog) yn ganolog. Gellir cofnodi a dyddio’r newidiadau ieithyddol sydd wedi digwydd ers hynny yn fanwl drwy ddefnyddio tystiolaeth destunol. Dadleuir y gellir deall y newidiadau hyn fel camau ar hyd llwybr tuag at system newydd, yr un mor gydlynol â’i rhagflaenydd, lle y mae pob ymadrodd rhifol yn ramadegol unigol, a chenedl yn hytrach na rhif sy’n penderfynu ffurf a threigladau ill dau.

Allweddeiriau

Yr iaith Gymraeg, newid cystrawennol, rhifolion, cytundeb gramadegol, rhif gramadegol.

Cyfeirnod

Willis, D. (2019), ‘Datblygiad cystrawen y rhifolion yn y Gymraeg’, Gwerddon, 28, 64–87. https://doi.org/10.61257/NQMY6133  

Nôl i erthyglau