Rhifyn 28

‘Beth yw’r ots gennyf i am Gymru?’: Astudiaeth o allfudo a dyheadau pobl ifanc o’r bröydd Cymraeg (Enillydd Gwobr Gwerddon 2017–19)

Mae’r erthygl hon yn ystyried allfudo ymysg pobl ifanc o’r bröydd Cymraeg eu hiaith o safbwynt eu dyheadau a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol. Mae’r ymchwil doethur gwreiddiol (2014) yn seiliedig ar waith Hywel Jones (2010), sy’n dadlau bod pobl ifanc a anwyd y tu allan i Gymru oddeutu bedair gwaith yn fwy tebygol o fudo o Gymru na phobl ifanc a anwyd yma. Ceisiwyd sefydlu pa rai yw’r prif ffactorau sy’n effeithio ar gyfraddau allfudo ymysg pobl ifanc sydd heb eu geni yng Nghymru a’r rhai sy’n blant i rieni nad ydynt yn frodorion. Deuir i’r casgliad mai un o’r prif resymau dros allfudo ymysg y grŵp hwn yw ffactorau’n ymwneud â’r ymdeimlad o berthyn a’u lefelau integreiddio i’r cymunedau dan sylw, yn hytrach na ffactorau economaidd yn unig. Yn benodol, ystyrir sut mae diwylliant, cenedligrwydd ac ystyriaethau’n ymwneud â’r Gymraeg yn effeithio ar y duedd hon, sydd ag oblygiadau pwysig o safbwynt cadw siaradwyr Cymraeg yn yr ardaloedd Cymraeg ‘traddodiadol’.

Allweddeiriau

Y fro Gymraeg, allfudo, hunaniaeth, perthyn, cynllunio ieithyddol.

Cyfeirnod

Wynn, L. (2019), ‘“Beth yw’r ots gennyf i am Gymru?”: Astudiaeth o allfudo a dyheadau pobl ifanc o’r bröydd Cymraeg’, Gwerddon, 28, 43–63. https://doi.org/10.61257/JVKJ1728 

Nôl i erthyglau