Rhifyn 27

Astudiaeth o ganfyddiadau tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion o anawsterau ynganu ymhlith dysgwyr yr iaith

Cyflwyna’r erthygl hon ddadansoddiad manwl o safbwyntiau tiwtoriaid profiadol ar ynganu dysgwyr Cymraeg i Oedolion (CiO) a’r sylw a roddir i ddysgu ynganu yn y sector. Casglwyd y data a gyflwynir yma drwy ddosbarthu holiadur ar-lein i diwtoriaid profiadol o wahanol rannau o Gymru, a thrwy gynnal grwpiau ffocws â sampl o’r tiwtoriaid hyn mewn dau leoliad penodol yng Nghymru. Nodau’r ymchwil yw sefydlu sut y mae tiwtoriaid yn canfod anawsterau ynganu dysgwyr, a darganfod i ba raddau y maent wedi eu hyfforddi’n ddigonol ar gyfer cynorthwyo dysgwyr o safbwynt yr agwedd heriol hon ar ddysgu iaith. Archwilir hefyd i ba raddau y mae gwahanol elfennau ynganu (e.e. cynhyrchu seiniau penodol a goslefu) yn effeithio ar allu dysgwyr i gyfathrebu’n effeithiol y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Cyflwynir ar ddiwedd yr erthygl hon gyfres o argymhellion o ran y modd y gall y sector CiO wella ei darpariaeth o safbwynt ynganu. Mae’r argymhellion hyn yn ymwneud â darpariaeth y cyrsiau, yr hyfforddiant y mae ei angen ar diwtoriaid, yr adnoddau y gellid eu datblygu, y gweithgareddau allgyrsiol y gellid eu cynnal, yn ogystal ag ymchwil pellach a allai lywio pedagogeg y sector.

Allweddeiriau

Ieithyddiaeth gymhwysol, dysgu Cymraeg, Cymraeg i Oedolion, ynganu, caffael ail iaith, amrywio ffonolegol, seineg, rhyngiaith.

Cyfeirnod

Rees, I. a Morris, J. (2018), ‘Astudiaeth o ganfyddiadau tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion o anawsterau ynganu ymhlith dysgwyr yr iaith’, Gwerddon, 27, 39–66. https://doi.org/10.61257/KYKM2333 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
Iwan Wyn Rees: 0000-0001-5859-3839
Nôl i erthyglau