Rhifyn 27

Rhododendron ponticum: Hanes ei gyflwyno a’i ymlediad yng Nghymru, y bygythiad i fioamrywiaeth a’r dyfodol

Llwyn bytholwyrdd coediog yw Rhododendron ponticum L., sy’n aelod o deulu’r Ericaceae. Daw yn wreiddiol o Sbaen, Mynyddoedd y Cawcasws ac arfordir y Môr Du. Cafodd ei gyflwyno i Brydain yn y ddeunawfed ganrif. Ers hynny, fodd bynnag, mae wedi datblygu i fod yn un o rywogaethau ymledol mwyaf niweidiol Prydain, gan achosi difrod ecolegol ac economaidd sylweddol. Bydd yr erthygl hon yn trafod hanes R. ponticum yng Nghymru, gan ystyried y ffactorau amgylcheddol a chymdeithasol sydd wedi cyfrannu at ei lwyddiant yma. Disgrifir y sefyllfa bresennol yng Nghymru, gan gynnwys y mathau o niwed y mae’n eu hachosi, yn ogystal â’r ymdrechion i reoli ei ymlediad. I gloi, bydd yr erthygl yn edrych ar rai o heriau amgylcheddol y dyfodol, a sut y gall y rhain ddylanwadu ar ymlediad R. ponticum.

Allweddeiriau

Rhododendron, amgylchedd, ymledol, ecoleg, cadwraeth, Eryri, pridd, metabolion, alelopathi.

Cyfeirnod

Jones, G. et al., (2018), ‘Rhododendron ponticum: Hanes ei gyflwyno a’i ymlediad yng Nghymru, y bygythiad i fioamrywiaeth a’r dyfodol’, Gwerddon, 27, 20–38. https://doi.org/10.61257/GPYL2822 

Nôl i erthyglau