Rhifyn 26

Y Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen

Mae’r Cyfnod Sylfaen (CS) yn gwricwlwm statudol ym mhob ysgol gynradd y wladwriaeth yng Nghymru ers 2008. Mae’r bedagogeg yn ddatblygiadol, ac yn annog y plant i ymddiddori drwy ddysgu drwy brofiadau. Mae’r papur hwn yn rhan o werthusiad ehangach o’r CS a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2012, ac mae’n ystyried un o’r saith maes dysgu sy’n rhan o’r CS; Datblygu’r Gymraeg. Darganfu nad oedd gwahaniaeth arwyddocaol yn sut oedd y CS yn cael ei weithredu mewn ysgolion a lleoliadau cyfrwng Cymraeg a Saesneg. Ond, yn gyffredinol, datblygir y Gymraeg yn ffurfiol mewn gweithgareddau boreol ar gyfer y dosbarth cyfan (e.e. amser cylch) sy’n mynd yn groes i weledigaeth Llywodraeth Cymru o gydblethu’r iaith ym mhob agwedd ar y CS. Mae’r papur yn ystyried sut mae ysgolion a lleoliadau yn mynd ati i ddatblygu unigolion dwyieithog, yn ôl gobeithion polisi Llywodraeth Cymru.

Allweddeiriau

Blynyddoedd Cynnar, yr iaith Gymraeg, Cyfnod Sylfaen, gwerthuso polisi.

Cyfeirnod

Rhys, M. (2018), ‘Y Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen’, Gwerddon, 26, 39–68. https://doi.org/10.61257/UJCB2367  

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0003-0521-6858
Nôl i erthyglau