Rhifyn 25

‘Cystadlaethau cof’, naratif a hanes yn Amgueddfa Heimat Wehlau: Negodi hanes a chof cymhleth yr Almaen yn yr ugeinfed ganrif

Rhwng 1945 a 1948 gorfodwyd i hyd at ddeuddeg miliwn o Almaenwyr a oedd yn trigo yn Nwyrain Ewrop fudo yn dilyn newidiadau a wnaed i ffiniau’r wlad. Daeth nifer o’r Almaenwyr hyn i fyw yng Ngweriniaeth Ffederal yr Almaen, lle y’u gelwid yn ‘allwladwyr’. I goffáu eu mamwlad golledig, agorwyd amgueddfeydd bychain yn cynrychioli’r ardaloedd yr allwladwyd hwy ohonynt. Mae’r erthygl hon yn trafod y portread o gof a hanes yn amgueddfa tref Wehlau a oedd yn Nwyrain Prwsia. Drwy ymchwilio themâu fel cynrychioliad y famwlad, yr Ail Ryfel Byd ac integreiddiad yr Almaenwyr hyn i Orllewin yr Almaen, bydd yr erthygl hon yn trafod y tebygrwydd, y gwahaniaethau a’r tensiynau rhwng diwylliant cof yr allwladwyr a diwylliant cof yr Almaen yn ehangach.

Allweddeiriau

Allwladwyr, Vertriebene, Yr Almaen, Heimat, amgueddfeydd, Wehlauer Heimatmuseum, Dwyrain Prwsia, Wehlau, Znamensk, cof, cystadleuaeth cof.

Cyfeirnod

Arwyn, A. (2017), ‘“Cystadlaethau cof”, naratif a hanes yn Amgueddfa Heimat Wehlau: Negodi hanes a chof cymhleth yr Almaen yn yr ugeinfed ganrif’, Gwerddon, 25, 45–69. https://doi.org/10.61257/IRUL6886 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0002-5871-9355
Nôl i erthyglau