Rhifyn 25

Dadansoddiad o berfformiad lampau electroymoleuol printiedig ar is-haen ddi-draidd

Er mwyn archwilio marchnadoedd newydd ar gyfer deunyddiau electronig printiedig, cynhaliwyd astudiaeth ymchwil i geisio deall perfformiad lampau electroymoleuol (EL) a gynhyrchwyd ar is-haen ('substrate') ddi-draidd. Daw’r posibilrwydd o greu’r lampau o ddeunydd inc sylffonad polystyren poly(3,4-ethylendeuocsithioffen) (PEDOT:PSS) sy’n ffurfio’r electrod top yn y lamp ac sy’n cael ei amnewid am yr indiwn tin ocsid (ITO) a ddefnyddir mewn lampau confensiynol. Gan ddefnyddio proses printio sgrin syml, cynhyrchwyd lampau ar bedair is-haen ddi-draidd (un blastig a thair bapur) a chymharwyd eu perfformiad drwy fesur lefel eu disgleirdeb. Yn gyffredinol, gwelwyd lleihad o tua 50% yn nisgleirdeb y lampau o’i gymharu â disgleirdeb lampau a gynhyrchwyd gan ddefnyddio ITO. Roedd papur ysgafnach a mwy garw yn lleihau’r disgleirdeb ymhellach. Nid oedd modd cynyddu disgleirdeb y lampau drwy ychwanegu haen ychwanegol o PEDOT:PSS gan fod hynny’n lleihau'r nodweddion tryloyw. Wrth gynyddu maint y lamp, mae effaith gwrthiant y PEDOT:PSS o’i gymharu â’r ITO yn achosi dirywiad sylweddol ym mherfformiad y lamp ac yn cyrraedd lefel o 25% yn unig o ddisgleirdeb lamp ITO o 5000 mm2. Nid y lleihad yn nargludedd a thryloywder y PEDOT:PSS o’i gymharu ag ITO yn unig sy’n gyfrifol am berfformiad cymharol wael y lampau di-draidd, ond hefyd natur dopolegol y gronynnau ffosffor, sy’n golygu bod rhai o’r gronynnau y tu hwnt i effaith y maes trydanol a grëwyd rhwng y ddau electrod.

Allweddeiriau

Electroneg brintiedig, dargludydd tryloyw, is-haen bapur, lampau electroymoleuol.

Cyfeirnod

Jewell, E., Claypole, T. a Gethin, D. (2017), 'Dadansoddiad o berfformiad lampau electroymoleuol printiedig ar is-haen ddi-draidd’, Gwerddon, 25, 30–44. https://doi.org/10.61257/LYJZ8053 

Nôl i erthyglau