Rhifyn 25

Anifeiliaid ymledol a’u heffeithiau ar ecosystemau dŵr croyw Prydain

Cyflwyno rhywogaethau anfrodorol yw un o’r bygythiadau mwyaf sylweddol a wyneba bioamrywiaeth byd eang. Ceir effaith sylweddol ar ecosystemau dŵr croyw, oherwydd cyflwynir nifer fawr o rywogaethau i lynnoedd ac afonydd ar gyfer dyframaethu a physgota. Yn yr erthygl hon, disgrifir yr anifeiliaid dŵr croyw anfrodorol hynny sy’n bresennol ac yn ymledu ym Mhrydain, neu sy’n debygol o ymsefydlu dros y blynyddoedd nesaf. Esbonnir sut effaith y caiff yr anifeiliaid hyn ar ecosystemau dŵr croyw ac economi Prydain, gan hefyd amlygu’r problemau hynny sy’n dod i’r amlwg wrth geisio rheoli’r ymledwyr. Trafodir hefyd sut y bydd newid hinsawdd a bygythiadau eraill yn effeithio ar ddosbarthiad rhywogaethau ymledol yn y dyfodol.

Allweddeiriau

Rhywogaethau ymledol, anifeiliaid dŵr croyw, ecosystemau, cimwch yr afon, pysgod, ymledwyr, cynefinoedd, afonydd, Prydain.

Cyfeirnod

Thomas, J. a Griffiths, S. (2017), 'Anifeiliaid ymledol a’u heffeithiau ar ecosystemau dŵr croyw Prydain’, Gwerddon, 25, 7–29. https://doi.org/10.61257/DFTI5024 

Nôl i erthyglau