Rhifyn 24

Lewis Edwards a Brad y Dysgedigion

Mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar dri thraethawd yn ymdrin â Samuel Taylor Coleridge ac Immanuel Kant a gyhoeddwyd gan y diwinydd a’r dysgedydd, Lewis Edwards, yn Y Traethodydd rhwng 1846 a 1853. Ystyrir Edwards yma yn gynrychiolydd arweinwyr crefyddol Cymru yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac archwilir ei waith am dystiolaeth o’r agwedd tuag at ddatblygiadau athronyddol y cyfnod a allai gynnig esboniad am ei fethiant i amddiffyn yr iaith a’r diwylliant Cymreig yn wyneb ymlediad y Saesneg.

Y ddadl a roddir gerbron yma yw bod ymlyniad Edwards i resymoliaeth ddyfaliadol, sy’n sail i ddiwinyddiaeth Galfinaidd y cyfnod, yn ei atal rhag ymateb yn uniongyrchol i sialens ddeallusol y cyfnod modern. Yn y tri thraethawd hyn, sy’n cyflwyno meddwl Kant fel y’i mynegir yn eiKritik cyntaf, ynghyd â diwinyddiaeth athronyddol Coleridge fel a geir ynAids to Reflection, cawn dystiolaeth glir o amharodrwydd Edwards i ymgymryd ag unrhyw sialens i’r athroniaeth Galfinaidd. Y mae’r darlun a gyflwyna o feddwl y ddau awdur yn ddiffygiol ac yn gamarweiniol. Rhan bwysig iawn o Kritik Kant ac Aids Coleridge oedd eu beirniadaeth ysgubol o resymoliaeth ddyfaliadol. Dewisodd Edwards anwybyddu hyn yn gyfan gwbl er mwyn cynnal ei gred yng ngallu dyn i ymestyn at y gwirionedd trwy gyfrwng sythwelediad deallusol, heb gyfeirio at brofiad empeiraidd.

Dadleuir mai’r dallineb ewyllysgar hwn tuag at y meddwl modern oedd un o’r prif ffactorau a oedd yn symbylu’r brad y cyhuddir Edwards a’i gyfoedion ohono. Awgrymir hefyd bod y brad hwnnw’n tanseilio nid yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig yn unig, ond y grefydd Galfinaidd yr oedd Edwards mor awyddus i’w hamddiffyn. Wrth ymwrthod â sialens y meddwl modern, gadawodd Edwards ei ddisgyblion heb gyfrwng i addasu’r athrawiaeth draddodiadol i ofynion synwyrusrwydd cyfnewidiol. A chanlyniad hynny yn y pendraw oedd ymddieithrwch oddi wrth y gorffennol Ymneilltuol, sydd yn parhau i effeithio arnom heddiw.

Allweddeiriau

Samuel Taylor Coleridge, Immanuel Kant, Lewis Edwards, Calfiniaeth, Ymneilltuaeth.

Cyfeirnod

Williams, I. (2017), 'Lewis Edwards a Brad y Dysgedigion', Gwerddon, 24, 83–101. https://doi.org/10.61257/IRVZ6819 

Nôl i erthyglau