Y werin a’r byddigions: Gwaed yr Uchelwyr a diwylliant llên troad y ganrif
Y werin a’r byddigions: Gwaed yr Uchelwyr a diwylliant llên troad y ganrif
M. Wynn Thomas
Dadl greiddiol yr ysgrif yw y byddai’n werth gosod drama nodedig Saunders Lewis, Gwaed yr Uchelwyr, yng nghyd-destun nifer o nofelau Saesneg Cymru a gyhoeddwyd ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg sy’n ymdrin â pherthnasedd yr hen bendefigaeth i’r Gymru Newydd yr oedd mudiad Cymru Fydd yn ei hybu. Awgrymir y gall amgyffred y testunau hyn finiogi a chyfoethogi ein dehongliad o ddrama sy’n gynnil ac yn amwys iawn ei goblygiadau.
Cyfeiriad:
M. Wynn Thomas, 'Y werin a’r byddigions: Gwaed yr Uchelwyr a diwylliant llên troad y ganrif', Gwerddon, 24, Awst 2017, 66–82.
Allweddeiriau
Saunders Lewis, Gwaed yr Uchelwyr, Cymru Fydd, beirniadaeth lenyddol, pendefigaeth, Radicaliaeth.