Rhifyn 24

Yr Ymateb Cynnar i Astudiaeth Saunders Lewis, Williams Pantycelyn

Yr astudiaeth Williams Pantycelyn (1927) gan Saunders Lewis oedd un o gyfraniadau mwyaf beiddgar at feirniadaeth lenyddol Gymraeg a welwyd yn yr ugeinfed ganrif. Mewn deg pennod ddisglair a chofiadwy, dehonglodd Lewis athrylith yr emynydd mewn dull cwbl annisgwyl ac unigryw. Y ddwy allwedd a ddefnyddiodd i ddatgloi cynnyrch y bardd oedd cyfriniaeth Gatholig yr Oesoedd Canol a gwyddor gyfoes seicoleg, yn cynnwys gwaith Freud a Jung. Enynnodd y gyfrol ymateb cryf, gyda rhai’n gwrthod y dehongliad ond eraill yn ei dderbyn. Yn yr ysgrif hon, disgrifir ymateb rhai o’r beirniaid cynnar: T. Gwynn Jones a oedd, at ei gilydd, yn croesawu’r dehongliad, E. Keri Evans a oedd yn ei wrthod a Moelwyn Hughes a ymatebodd yn chwyrn yn ei erbyn. Oherwydd grym rhesymu Lewis a dieithriwch ei deithi beirniadol, llwyddwyd i ddarbwyllo llawer mai hwn, chwedl Kate Roberts, oedd ‘y Williams iawn’. Bu’n rhaid aros tan y 1960au i weld disodli’r farn hon yn derfynol. Erys yr ymatebion yn dyst i feiddgarwch a disgleirdeb Pantycelyn Saunders Lewis.

Allweddeiriau

Saunders Lewis, Williams Pantycelyn, beirniadaeth lenyddol, emynyddiaeth, seicoleg, diwinyddiaeth.

Cyfeirnod

Morgan, D. (2017), 'Yr Ymateb Cynnar i Astudiaeth Saunders Lewis, Williams Pantycelyn', Gwerddon, 24, 51–65. https://doi.org/10.61257/DHSW7623 

Nôl i erthyglau