Rhifyn 24

Y ddeilen hon: natur, tarddiadau a phwrpas lliwiau dail

Y mae cyflwr yr amgylchedd a threigl amser yn cael eu hadlewyrchu yn lliwiau newidiol y planhigion sydd o’n cwmpas. Y mae cloroffyl, y pigment gwyrdd mewn dail, yn dal golau’r haul ac yn pweru’r biosffer. Y mae diflaniad cloroffyl o ddail yn yr hydref yn datgelu lliwiau melyn ac oren teulu arall o bigmentau planhigion, sef y carotenoidau. Y mae carotenoidau yn amddiffyn planhigion rhag straen ac y maent hefyd yn gyfrifol am liwiau mewn blodau ac am yr oren a choch mewn ffrwythau. Yn yr hydref, y mae dail rhywogaethau, megis masarn, yn gwneud anthocyaninau coch a phorffor, sy’n aelodau o deulu amrywiol o bigmentau a chemegion amddiffyn. Y mae planhigion yn defnyddio pigmentau i anfon signalau at organebau sy’n peillio blodau, i’r rhai sy’n gwasgaru hadau a ffrwythau, ac i ysglyfaethwyr; ymhlith y rhain i gyd y mae’r ddynol ryw, sydd yn ymateb mewn dull ffisiolegol a seicolegol arbennig i’r cemegion a geir yn y planhigion sy’n lliwio ein byd.

Allweddeiriau

Bioleg planhigion, morffoleg planhigion, biosffer, dail, pigmentau.

Cyfeirnod

Ougham, H. a Thomas, H. (2017), 'Y ddeilen hon: natur, tarddiadau a phwrpas lliwiau dail', Gwerddon, 24, 38–50. https://doi.org/10.61257/UFYD7280 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
Helen Ougham: 0000-0002-2685-6937
Nôl i erthyglau