Rhifyn 24

Dadymdroelliad y modwlws cymhlyg mewn glud-elastigedd llinol

Mae sbectrwm llaciad defnydd glud-elastig yn allweddol i ddisgrio ei fecanweithiau llaciad ar lefel folecwlar. Mae hefyd yn chwarae rhan sylfaenol mewn cyrchu dosraniad pwysau molecwlar, ac mewn modelu dynameg llifyddion cymhleth. Ni ellir mesur y sbectrwm llaciad yn uniongyrchol, ond mae'n bosibl ei ddarganfod yn rhannol drwy fesuriadau arbrofol o ymateb glud-elastig ar lefel facrosgopig. Yn benodol, dosraniad di-dor o amserau llaciad yw'r sbectrwm llaciad, y gellir ei adfer, o leiaf yn lleol, wrth fesur modwlws cymhlyg y defnydd. Er y bu mynegiadau mathemategol ar gael am y sbectrwm di-dor am dros ganrif neu fwy, nid oedd y rhain yn caniatáu gweithredu rhifiadol am sawl degawd, gan fod hyn yn golygu gweithredyddion gwrthdroi nad ydynt yn ddi-dor, ac yn arwain at ansadrwydd eithriadol. Symudwyd ymlaen pan gyflwynwyd, rhyw ddau ddegawd yn ôl, ddulliau rheoleiddiadol am frasamcanu sbectrymau llinell arwahanol. Er hyn, roedd yn rhaid aros tan 2012 cyn i Davies a Goulding gynnig dull rheoleiddiad tonnell i adfer sbectrymau di-dor mewn fframwaith mathemategol manwl gywir. Datblygwyd y gwaith hwn ymhellach yn 2016 wrth gyflwyno ffurf fathemategol spectrosgopeg deilliad trefn uchel, sy'n cynnwys dilyniannau o ddeilliadau modwli dynamig, a elwir yn ddilyniannau Maclaurin. Yn yr erthygl hon, cyflwynir cyfiawnhad manwl gywir am ddefnyddio dilyniannau Maclaurin. Ymhellach, cyflwynir dilyniant newydd, a elwir yn gywiriad dilyniant tonnell, sy'n cyflawni'r un cywirdeb manwl â dilyniannau Maclaurin, gyda threfn differiad is.

Allweddeiriau

Glud-elastigedd llinol, dadymdroelliad, sbectrwm llaciad di-dor, y modwlws cymhlyg, dilyniannau tonnell.

Cyfeirnod

Davies, A. (2017), 'Dadymdroelliad y modwlws cymhlyg mewn glud-elastigedd llinol', Gwerddon, 24, 22–37. https://doi.org/10.61257/RZYK6851 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0003-3747-8027
Nôl i erthyglau