Rhifyn 23

‘Byd newydd ymha un y preswylia cyfiawnder’: Gweledigaeth Morgan John Rhys (1760–1804)

Yn yr erthygl hon, dadleuir sut y dylanwadodd credoau Morgan John Rhys (1760–1804) ynghylch yr Ailddyfodiad a’r Milflwyddiant ar ei ymwneud ef â’r ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth, y Chwyldro Ffrengig ac America. Dangosaf sut yr oedd Milflwyddiaeth yn rym a luniai fydolwg Morgan John Rhys ac a lywiai ei weithredoedd a’i ymgyrchoedd cymdeithasol. Yn ogystal â hyn, dangosir sut y bu i William Williams, Pantycelyn (1717–91), ragflaenu Morgan John Rhys yn y cyd-destun hwn. Dadleuir, wrth astudio Williams a Rhys, na ellir cyfrif Efengyliaeth a’r Oleuedigaeth yn elynion deallusol i’w gilydd, ac mai Milflwyddiaeth oedd un o’r grymoedd pwysicaf ym mywydau’r ddau ddyn hyn a chwaraeodd ran dylanwadol iawn ym mywyd Cymru’r ddeunawfed ganrif.

Allweddeiriau

Morgan John Rhys, William Williams, Pantycelyn, Ailddyfodiad, Milflwyddiaeth, caethwasiaeth, Cristnogaeth.

Cyfeirnod

Llwyd, C. (2017), ‘“Byd newydd ymha un y preswylia cyfiawnder”: Gweledigaeth Morgan John Rhys (1760–1804)’, Gwerddon, 23, 85–98. https://doi.org/10.61257/CSIQ5211 

Nôl i erthyglau