Rhifyn 23

Canu i’r Cof: Effeithiau prosiect Singing for the Brain ar gof ac ansawdd bywyd pobl sydd â dementia yng ngogledd Cymru

Pwrpas yr erthygl hon yw darganfod pa fudd y mae canu mewn grŵp yn ei gael ar bobl sydd â dementia, yn benodol drwy edrych ar sesiynau Singing for the Brain (SftB) a gynhaliwyd yng ngogledd Cymru yn ystod 2012–13 gan y Gymdeithas Alzheimer. Cychwynnir drwy drafod ymchwil sydd eisoes wedi ei gwblhau ar ganu mewn grŵp ym maes cerddoriaeth a dementia, yn ogystal ag olrhain tarddiad y prosiect Singing for the Brain ar draws Prydain. Yna, adroddir ar y gwaith maes gan gyflwyno’r casgliadau, ac yna ymlaen i ymdrin â gwerthuso’r casgliadau.

Allweddeiriau

Alzheimers, dementia, cerddoriaeth, Cymdeithas Alzheimers, canu mewn grŵp, Canu i’r Cof.

Cyfeirnod

Williams, N. (2017), 'Canu i’r Cof: Effeithiau prosiect Singing for the Brain ar gof ac ansawdd bywyd pobl sydd â dementia yng ngogledd Cymru’, Gwerddon, 23, 36–57. https://doi.org/10.61257/OVIT7617 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0002-3064-3176
Nôl i erthyglau