Rhifyn 23

Effaith defnyddio Cofion Cyfieithu ar y broses gyfieithu: Ymdrech a chynhyrchiant wrth gyfieithu i’r Gymraeg

Mae cyfieithu i’r Gymraeg wedi tyfu bellach yn ddiwydiant pwysig, ac mae nifer o ymchwilwyr wedi cysylltu cyfieithu ag ymdrechion ehangach ym maes cynllunio ieithyddol. Mae’r oes dechnegol hefyd wedi gwyrdroi sut y mae cyfieithu’n digwydd yn rhyngwladol, ac mae nifer o’r datblygiadau hyn hefyd wedi cyrraedd Cymru. Bwriad yr erthygl hon felly, gan gadw mewn cof bwysigrwydd cyfieithu i gynllunio ieithyddol yng Nghymru, yw ymchwilio i’r effaith y mae Cofion Cyfieithu yn ei chael ar agweddau penodol ar y broses o gyfieithu i’r Gymraeg, gan ofyn a oes lle i’r dechnoleg hon mewn cyd-destun proffesiynol. Pa gyfraniad a all y dechnoleg ei wneud, felly, i gyfieithu a chynllunio ieithyddol yng Nghymru?

Allweddeiriau

Cyfieithu proffesiynol, technoleg cyfieithu, ymdrech wybyddol, cynhyrchu testun, Translog, y broses gyfieithu.

Cyfeirnod

Screen, B. (2017), ‘Effaith defnyddio Cofion Cyfieithu ar y broses gyfieithu: Ymdrech a chynhyrchiant wrth gyfieithu i’r Gymraeg’, Gwerddon, 23, 10–35. https://doi.org/10.61257/PISJ2034 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0003-1356-131X
Nôl i erthyglau