Rhifyn 22

Cynllunio 'Laser Tonfedd Ddeuol'

Mae’r gwaith hwn yn seiliedig ar y syniad o gynllunio laser â’r gallu i daflu golau ar ddwy donfedd wahanol yr un pryd. Mae laser o’r math hwn wedi cael ei gynllunio yn y gorffennol, ond roedd y gwahaniaeth rhwng y ddwy donfedd ar raddfa lawer mwy. Bwriedir lleihau’r gwahaniaeth hwn, ond byddwn yn dal i fedru cael y laser i allyrru gan ddefnyddio dwy donfedd ar wahân. Bydd effaith ehangu lled y llinell hefyd yn cael ei ystyried, gan ei bod yn bwysig edrych ar y pellter rhwng y ddwy donfedd cyn eu bod yn ymddangos yn un brig llydan yn y sbectrwm, yn hytrach na dau frig cul. Bydd y pellter hwn yn cael ei fesur er mwyn sefydlu terfyn ar gyfer y gwahaniad mwyaf posibl rhwng y ddwy donfedd lle na fyddai’n bosibl gweld dwy linell gydrannol yn y sbectrwm. Bydd gwneud hyn yn galluogi dylunio ‘laser tonfedd ddeuol’ ag amrediad o wahaniaethau o ran tonfedd, a fydd yn arwain at y posibilrwydd o greu ymbelydredd teraherts o un laser, yn hytrach na ‘chymysgu’ y golau o ddau laser gwahanol gyda’i gilydd, fel a wnaed yn y gorffennol.

Allweddeiriau

Laser, VCSEL, VECSEL, terahertz, tonfedd ddeuol, lled-llinell, electroneg, Leinonen, Schawlow-Townes, Charles Henry.

Cyfeirnod

Roberts, D. a Pierce, I. (2016), ‘Cynllunio “Laser Tonfedd Ddeuol”’, Gwerddon, 22, 75–93. https://doi.org/10.61257/GJIR2827 

Nôl i erthyglau