Rhifyn 22

“Dim Sôn am Dduw na Dyn”: Ar drywydd yr ‘U Ogleddol’ yng nghanolbarth Cymru

Y mae’r llafariaid caeedig canol, neu’r ‘u ogleddol’ fel y’u gelwir yn aml, yn nodweddiadol o amrywiadau gogleddol ar y Gymraeg. Yn gyffredinol yng ngogledd Cymru, felly, ceir cyferbyniad rhwng parau o eiriau megis ‘tŷ’ / ‘ti’ a ‘sur’ / ‘sir’. Yn y de ar y llaw arall, collir y cyferbyniad hwn, ac yno y mae’r parau hyn o eiriau yn homoffonau wrth iddynt gael eu hynganu ag ‘i ddeheuol’ yn gyson. Prif amcan yr astudiaeth hon, felly, yw cynnig dadansoddiad meintiol am y tro cyntaf o’r modd y collir y cyferbyniad rhwng ‘u ogleddol’ ac ‘i ddeheuol’ mewn rhannau o ganolbarth Cymru. Dangosir gan hynny fod strwythur cymhleth i amrywiadau un ‘ardal drawsnewid’ benodol, sef Bro Dysynni, a bod defnydd siaradwyr yr ardal hon o’r ‘u ogleddol’ wedi ei gyflyru gan sawl ffactor ieithyddol gwahanol. Yn olaf, cynigir yma ddamcaniaeth newydd, sef bod ymgyfnewid rhwng ‘u ogleddol’ ac ‘i ddeheuol’ yn gysylltiedig ag amrywiaeth yn hyd deuseiniaid, a thrafodir goblygiadau hyn.

Allweddeiriau

Tafodieithoedd, tafodieitheg, ffonoleg, amrywio, amrywiol ffonolegol, ieithyddiaeth, sosioieithyddiaeth, newid ieithyddol, ardaloedd trawsnewid, Cymraeg.

Cyfeirnod

Rees, I. (2016), ‘“Dim Sôn am Dduw na Dyn”: Ar drywydd yr ‘U Ogleddol’ yng nghanolbarth Cymru’, Gwerddon, 22, 47–74. https://doi.org/10.61257/TVMQ2503 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0001-5859-3839
Nôl i erthyglau