Rhifyn 22

Effaith amlder iaith yn y cartref ar wybodaeth oedolion o’r system o greu enwau lluosog yn y Gymraeg

Nod yr astudiaeth hon oedd archwilio rôl ansawdd ac amlder amlygiad i fewnbwn ieithyddol (h.y. i ba raddau yr amlygir unigolion i iaith o wahanol ffynonellau yn ystod eu bywydau) ar gaffaeliad oedolion dwyieithog Cymraeg-Saesneg o’r system o greu enwau lluosog Cymraeg. Dangosodd ymchwil flaenorol y ceir gwahaniaethau rhwng plant dwyieithog o gefndiroedd iaith gwahanol. Er ei fod yn bosibl lleihau'r gwahaniaeth wrth iddynt gael eu hamlygu fwyfwy i’r iaith honno, mae cwestiwn ynghylch pa mor gyflym y gellir cael llai o wahaniaethau (os o gwbl) pan fo strwythurau iaith yn gymhleth, yn enwedig os defnyddir y system yn anghyson ymysg gwahanol oedolion. Fodd bynnag, mae i ba raddau y mae’r gwahaniaethau hyn yn diflannu yn ansicr, gan nad oes ymchwil wedi’i chynnal ymysg unigolion dros 11 oed. Felly nod yr astudiaeth oedd asesu gallu oedolion Cymraeg-Saesneg o wahanol gefndiroedd dwyieithog i greu ffurfiau lluosog o enwau Cymraeg er mwyn olrhain i ba raddau y gwelwyd lleihad yn y gwahaniaethau rhwng plant dros amser.

Allweddeiriau

Caffael iaith, seicoleg, system luosogi, dwyieithrwydd, amlder iaith.

Cyfeirnod

Binks, H. a Thomas, E. (2016), 'Effaith amlder iaith yn y cartref ar wybodaeth oedolion o’r system o greu enwau lluosog yn y Gymraeg', Gwerddon, 22, 31–46. https://doi.org/10.61257/HWIV7748 

Nôl i erthyglau