Rhifyn 21

Ystyriaeth feirniadol o arwyddocâd moesegol chwaraeon rhyngwladol

Yn yr erthygl hon rydym yn herio’r syniad fod cenedlaetholdeb yn gyffredinol, a chenedlaetholdeb ar y maes chwarae yn arbennig, yn anfoesol. Er bod cenedlaetholdeb yn gallu cael ei lygru ar y maes chwarae ac mewn cyd-destunau eraill, nid yw hynny o reidrwydd yn anochel. Trwy drafod athroniaeth cenedlaetholdeb rhyddfrydol, fe fyddwn yn ceisio dangos bod derbyn ymlyniad diwylliannol a chenedlaethol yn hanfodol er mwyn hybu cymuned ryng-genedlaethol. Ymhellach, byddwn yn dadlau bod gan chwaraeon cenedlaethol botensial hynod arwyddocaol i greu fforwm a deialog lle y gall gwahanol ddinasyddion rannu a dysgu oddi wrth ei gilydd.

Allweddeiriau

Cenedlaetholdeb, moeseg, chwaraeon cenedlaethol, cosmopolitan, hunaniaeth genedlaethol, diwylliant.

Cyfeirnod

Iorwerth, H. a Jones, C. (2016), 'Ystyriaeth feirniadol o arwyddocâd moesegol chwaraeon rhyngwladol', Gwerddon, 21, 65–81. https://doi.org/10.61257/CWXY8866 

Nôl i erthyglau