Rhifyn 21

Efrydiau Athronyddol: etifeddiaeth y dylid ei thrysori

Yn yr erthygl hon disgrifir gwreiddiau a pheth o hanes y cyfnodolyn Efrydiau Athronyddol, a gyhoeddwyd rhwng 1938 ac 2006. Cyfnodolyn Adran Athroniaeth Urdd y Graddedigion oedd yr Efrydiau a chyflwynwyd y rhan fwyaf o’r erthyglau fel papurau yn ystod cynhadledd flynyddol yr Adran, cynhadledd sy’n parhau i gael ei chynnal hyd heddiw. Manylir ar natur a chynnwys rhifyn cyntaf y cyfnodolyn, yn ogystal â thynnu sylw at ei brif themâu. Dangosir hefyd sut y daeth newid sylweddol i’r Efrydiau yn 1949 yn sgil penderfyniad allweddol gan aelodau’r Adran. Trodd yr Efrydiau o fod yn gyfnodolyn oedd yn trafod athroniaeth yn unig i fod yn gyfnodolyn lled ryngddisgyblaethol. Wedi’r newid hwnnw, cyhoeddwyd erthyglau ar sawl pwnc ynddo, ond fel arfer â ffocws arbennig ar faterion Cymreig. Yn ail hanner yr erthygl, trafodir papur dylanwadol a phwysig (y cyfraniad pwysicaf yn holl hanes y cyfnodolyn, efallai), sef ‘Y syniad o genedl’ gan yr Athro J. R. Jones. Fe’i cyhoeddwyd y flwyddyn cyn darlledu ‘Tynged yr Iaith’ gan Saunders Lewis, ac yma dadansoddir ei brif ddadleuon. Enghreifftir popeth sy’n bwysig am yr Efrydiau gan yr erthygl: defnyddir dull athronyddol o ddadansoddi, ond mae’n rhyngddisgyblaethol hefyd gan ei bod yn defnyddio elfennau o farddoniaeth a hanes. Mae’n erthygl wleidyddol a dylanwadol, ac yn sgil hynny disgrifiwyd Jones gan yr Athro D. Z. Phillips fel ysbrydoliaeth athronyddol Cymdeithas yr Iaith yn ogystal â bod yn ddylanwad pwysig ar Saunders Lewis.

Allweddeiriau

Efrydiau Athronyddol, J. R. Jones, ‘Y syniad o Genedl’, athroniaeth, Adran Athroniaeth Urdd y Graddedigion.

Cyfeirnod

Edwards, S. (2016), '"Efrydiau Athronyddol": etifeddiaeth y dylid ei thrysori', Gwerddon, 21, 13–25. https://doi.org/10.61257/MXNS3652  

Nôl i erthyglau