Rhifyn 20

Rôl bôn-gelloedd yn adfer meinwe cardiaidd: gwerthuso triniaethau ac adnabod risg

Mae’r erthygl hon yn gwerthuso potensial ystod o fôn-gelloedd ar gyfer atffurfio meinwe cardiaidd yn dilyn trawiad ar y galon. Ar sail arolwg cychwynnol o ymchwil perthnasol, cyflwynir rhai o’r prif fecanweithiau biolegol parthed atffurfio meinwe cardiaidd, yn cynnwys:

  1. rôl ffactorau trawsgrifio, megis ocsitosin a c-kit a ffactorau twf paracrinaidd;
  2. astudiaethau ar bysgod rhesog sydd wedi datgelu mecanweithiau megis rôl atffurfiannol cardionogen 1-, 2- a 3-, a’u swyddogaeth yn atal effeithiau ffenoteipiau cardiaidd sy’n rheoli datblygiad y galon;
  3. mecanweithiau cludo ac impwreiddio, yn cynnwys fectorau firol a phlasmidol, ysgogiad trydanol a nanodechnoleg.

Adroddir am ganlyniadau arbrofion in vitro ac in vivo sydd wedi dangos fod i fôngelloedd botensial clinigol yn y maes hwn, yn ogystal â pheryglon imiwnolegol a thiwmorigenig. Ar hyn o bryd (2012), er bod y dystiolaeth glinigol yn brin, awgrymirmodelau therapiwtig cymhleth i’w datblygu yn y dyfodol.

Allweddeiriau

Bôn-gelloedd, cnawdnychiad myocardiaidd, atffurfiad meinwe cardiaidd, impwreiddio, nanodechnoleg

Cyfeirnod

Davies, N. (2015), 'Rôl bôn-gelloedd yn adfer meinwe cardiaidd: gwerthuso triniaethau ac adnabod risg', Gwerddon, 20, 61-75. https://doi.org/10.61257/MABE8871 

Nôl i erthyglau