Rhifyn 20

Rhaniad arwynebedd lleiaf silindr yn dair rhan

Yn yr erthygl hon, dadansoddir datrysiadau dichonadwy i’r broblem geometrig o rannu silindr yn dair rhan â’r un cyfaint. Darganfyddir y datrysiadau yng nghyd-destun cyflwr egnïol isaf ewyn hylifol sych. Defnyddir y meddalwedd efelychu rhifiadol Surface Evolver er mwyn enrhifo’r holl ddatrysiadau a chyfrifo’r arwynebedd ym mhob achos. Darganfyddir y datrysiad arwynebedd lleiaf ar gyfer holl werthoedd cymhareb agwedd y silindr, sef hyd ei radiws wedi’i rannu â’i uchder. Dangosir mai pedwar datrysiad optimaidd sydd i’r broblem ar gyfer holl werthoedd y gymhareb agwedd. Rhoddir cyfwng ar gyfer cymhareb agwedd y silindr ar gyfer pob un o’r datrysiadau optimaidd.

Allweddeiriau

Mathemateg, optimeiddio, arwynebau lleiaf, ewyn, geometreg, problem Kelvin, deddfau Plateau.

Cyfeirnod

Davies, T., Garratt, L., a Cox, S. (2015), 'Rhaniad arwynebedd lleiaf silindr yn dair rhan', Gwerddon, 20, 30-43. https://doi.org/10.61257/RMLE6714  

Nôl i erthyglau