Rhifyn 20

Ynni adnewyddadwy cymunedol: adolygiad o’r sefyllfa bresennol a phosibiliadau’r sector unigryw hwn

Mae’r sector ynni adnewyddadwy yn prysur dyfu wrth i wledydd anelu at gyrraedd targedau lleihau allyriadau carbon a sefydlu strategaeth fwy cynaliadwy o greu ynni. Er hyn, dadleuir nad yw datblygiadau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr yn llwyddo i gyfrannu tuag at gynaliadwyedd cymunedol a’r economi lleol. Yn ôl ymchwil ddiweddar, mae prosiectau ynni cymunedol – prosiectau ynni adnewyddadwy sydd wedi eu perchenogi’n rhannol neu’n llawn gan gymuned ddaearyddol benodol – yn cael eu gweld fel ffordd o gynhyrchu ynni mewn modd mwy derbyniol, teg a chynaliadwy. Mae’r erthygl hon yn adolygu’r llenyddiaeth bresennol sy’n trafod manteision y sector ynni cymunedol a’r hyn sy’n llesteirio datblygiadau yn y maes hwn.

Allweddeiriau

Ynni cymunedol, ynni adnewyddadwy, datblygu cymunedol, datblygu cynaliadwy, perchnogaeth leol.

Cyfeirnod

Haf, S. (2015), 'Ynni adnewyddadwy cymunedol: adolygiad o’r sefyllfa bresennol a phosibiliadau’r sector unigryw hwn', Gwerddon, 20, 10-29. https://doi.org/10.61257/DXHM7797  

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0002-9174-2696
Nôl i erthyglau