Rhifyn 2

Ideoleg ac estheteg yn y mudiad drama

Mae’r papur hwn yn archwilio’r cefndir a’r rhagdybiaethau sylfaenol a oedd yn rhan o ddadl gyhoeddus rhwng Dr Kate Roberts a Dr Thomas Parry a gynhaliwyd yng ngholofnau papur newydd Y Genedl ddechrau’r 1930au. Pwnc y ddadl oedd y polisi a oedd yn rheoli’r broses o ddewis dramâu ar gyfer perfformiad blynyddol Cymdeithas Ddrama Gymraeg myfyrwyr Bangor. Ers ei chynhyrchiad arloesol o gyfieithiad Ifor Wiliams o Tŷ Dol yn 1926, daeth cynhyrchiad drama blynyddol Bangor i gael ei ystyried yn ddigwyddiad o bwys sylweddol yn rhaglen y Mudiad Drama yng Nghymru. Fodd bynnag, mae awdur yr erthygl yn awgrymu bod dadansoddiad o ragdybiaethau esthetig a diwylliannol y ddau awdur – yr oedden nhw eu hunain yn ffigurau o bwys canolog ar y pryd – yn codi materion o bwys ehangach na’r mudiad Drama ei hun, sy’n dal i effeithio ar ddadl academaidd a diwylliannol heddiw.

Allweddeiriau

Ideoleg, estheteg, drama, Kate Roberts, Thomas Parry.

Cyfeirnod

Williams, I. (2007), 'Ideoleg ac estheteg yn y mudiad drama', Gwerddon, 2, 87-103. https://doi.org/10.61257/OYOK6704 

Nôl i erthyglau