Rhifyn 19

Mwslemiaid yn y Gymru wledig: datgysylltiad, ffydd a pherthyn

Dros y blynyddoedd diwethaf, rhoddwyd tipyn o sylw i brofiadau carfannau lleiafrifol sy’n cael eu gwthio i’r ymylon mewn ardaloedd gwledig. Serch hynny, prin yw’r sylw a roddir i garfannau crefyddol mewn rhanbarthau gwledig. Y mae’r prinder sylw hwn yn syndod o ystyried y sylw a roddir i grefydd mewn materion yn ymwneud ag amlddiwylliannedd a dinasyddiaeth gynhwysol. Trafoda’r erthygl hon brofiadau un garfan grefyddol leiafrifol benodol, sef y Mwslemiaid, yng ngorllewin Cymru wledig. Canolbwyntia’r erthygl ar brofiadau o absenoldeb o’r tirlun (h.y. y dirwedd ffisegol a’r delweddau a gwerthoedd ehangach sy’n cyfleu syniadau am leoedd), sy’n medru creu anawsterau o ran hwyluso ymdeimlad o gymuned. Yn ogystal, edrychir ar y modd yr ystyria Mwslemiaid lleol y rhanbarth fel un moesol a Christnogol. Awgryma’r papur bod y profiadau hyn yn troesesgyn syniadau o ‘eithrio’ a ‘pherthyn’, ac yn tystio i berthynas gymhleth rhwng Mwslemiaid lleol a’r rhanbarth gwledig hwn.

Allweddeiriau

Cefn gwlad, Mwslemiaid, absenoldeb, moeseg, delfryd wledig, gorllewin Cymru, amlddiwylliannedd.

Cyfeirnod

Jones, Rh. (2015), 'Mwslemiaid yn y Gymru wledig: datgysylltiad, ffydd a pherthyn', Gwerddon, 19, 9-27. https://doi.org/10.61257/RDYP1678 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0002-1231-7529
Nôl i erthyglau