Rhifyn 18

Etifeddiaeth cloddio am lo ym maes glo de Cymru: llygredd dŵr ac opsiynau i’w leihau (Enillydd Gwobr Gwerddon 2013–15)

Mae cloddio am lo a phrosesau cysylltiedig wedi effeithio ar amgylchedd naturiol rhan orllewinol maes glo de Cymru wrth i ddŵr llygredig sy’n arllwys o hen lofeydd gyrraedd y system hydrolegol leol. Mae gwaddol y gwaith cloddio yn yr ardal hon yn cynnwys ffurfiant dŵr llygredig, a lifa o sawl hen lofa, yn ogystal â ffurfiant mwynau haearn. Yn yr erthygl hon trafodir y prosesau tanddaearol sydd ar waith yn y glofeydd sy’n arwain at ffurfiant dŵr llygredig a mwynau haearn. Ymdrinnir yn benodol â phedair o’r hen lofeydd gan edrych ar y gwahanol systemau trin dŵr a ddefnyddir ar y safleoedd hynny. Mae’r systemau yn trin y dŵr llygredig drwy gael gwared â’r haearn fel bod y crynodiadau terfynol yn is na’r trothwy a bennwyd gan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.

Enillydd Gwobr Gwerddon 2015.

Allweddeiriau

Cloddio am lo, llygredd dŵr, systemau trin dŵr.

Cyfeirnod

Blackwell, N., Perkins, W., a Edwards, A. (2014), 'Etifeddiaeth cloddio am lo ym maes glo de Cymru: llygredd dŵr ac opsiynau i’w leihau', Gwerddon, 18, 55-76. https://doi.org/10.61257/OOEV1196 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
Nia Blackwell: 0000-0002-6256-8449
Nôl i erthyglau