Rhifyn 18

Model amldonfedd i ddelweddu a dadansoddi meysydd magnetig yng nghorona’r Haul

Mae’r Haul yn system ddynamig, gymhleth, sy’n llawn nodweddion diddorol a phwysig. Gellir modelu’r fath nodweddion drwy sawl dull, e.e. modelau Meysydd Di-rym Aflinol (NLFFF: non-linear force-free field). Yn y papur hwn, adeiladir efelychiadau NLFFF. Y bwriad yw amcangyfrif patrymau gofodol y maes magnetig yng nghromosffer a chorona’r Haul ynghyd â newidiadau yn yr egni rhydd sydd yn y system, fel colledion egni oherwydd ffrwydradau ar yr Haul. Mae gan y rhan fwyaf o fodelau sydd eisoes yn bodoli gydraniad amserol (temporal cadence) o 12 munud ar y gorau (h.y. efelychir y sefyllfa bob 12 munud). Mae’r dull a drafodir yn y papur hwn yn gwneud sawl bras amcan ond mae’n anelu at gyrraedd cydraniad amserol o 45 eiliad. Canfyddir bod y dull a ddefnyddir yma yn efelychu data synthetig yn llwyddiannus, ac wrth ymdrin â data go iawn, mae’n cynhyrchu delweddau sy’n aml yn cyfateb yn dda i arsylwadau. Gwelir sawl cwymp yn yr egni rhydd o fewn y system, sy’n cyfateb i ffrwydradau yr arsylwyd arnynt. Gyda hynny, rhoddir golwg newydd ar brosesau cyflym sydd i’w gweld ar yr Haul.

Allweddeiriau

Haul, NLFFF, lwpiau'r corona, efelychu, ffrwydrad, osgiliadau, egni.

Cyfeirnod

Smith, J. (2014), 'Model amldonfedd i ddelweddu a dadansoddi meysydd magnetig yng nghorona’r Haul', Gwerddon, 18, 23-40. https://doi.org/10.61257/LOVV6307 

Nôl i erthyglau