Rhifyn 17

Heddwch Salem? Astudiaeth o bortread Cliff McLucas o Cynog Dafis

Ym 1987, gweithiai’r artist a chyfarwyddwr theatr, Cliff McLucas, fel artist preswyl yn Ysgol Gyfun Ddwyieithog Dyffryn Teifi ar brosiect o’r enw ‘Preswyliad Cyfryngau Dyfed’. Fel rhan o’i waith yn yr ysgol, creodd gyfres o bortreadau o’r athrawon gan ddefnyddio techneg gludwaith ffotograffiaeth. Yn rhan o’r gyfres hon o luniau, ceir llun o athro Saesneg yr ysgol ar y pryd; y gwleidydd a’r ymgyrchydd iaith, Cynog Dafis. Yn yr erthygl hon, cynigir darlleniad craff o bortread McLucas o Dafis trwy edrych ar yrfa wleidyddol Dafis yng nghyd-destun bywyd McLucas ei hun. Symudodd McLucas o’r Alban i Dregroes, Ceredigion, ym 1973. Ar yr un adeg, aeth ati i ddysgu’r Gymraeg. Trafodir portread McLucas fel ymateb hunanymwybodol i’w bresenoldeb ef ei hun fel mewnfudwr i Geredigion, a hynny wrth wynebu Cynog Dafis (aelod o elite deallusol ei ddiwylliant mabwysiedig). Wrth wneud hynny, awgrymir perthynas rhwng portread McLucas o Dafis a llun enwog Sidney Curnow Vosper o 1908, ‘Salem’. Ar ddiwedd yr erthygl, ceir ôl-nodyn sy’n cysylltu’r drafodaeth ar McLucas a’i bortread o Dafis ag agweddau ar y drafodaeth gyfoes ar fewnfudo ac allfudo yn ardaloedd gwledig Cymru.

Allweddeiriau

Hunaniaeth, mewnfudwyr, dysgwyr, diwylliant, cymdeithas.

Cyfeirnod

O'Neill, R. (2014), 'Heddwch Salem? Astudiaeth o bortread Cliff McLucas o Cynog Dafis', Gwerddon, 17, 23-40. https://doi.org/10.61257/RTJP6718 

Nôl i erthyglau