Rhifyn 16

Brwydr Iaith, Brwydro Iaith: Terminoleg y byd pop Cymraeg fel dull protestio yn y 1960au a’r 1970au

Mae’r erthygl hon yn bwrw golwg manwl ar y berthynas rhwng ymgyrchu iaith y 1960au a’r 1970au, a bathu termau newydd yn y byd pop Cymraeg. Canolbwyntir ar geisiadau i addasu’r Gymraeg i amgylchiadau cerddoriaeth boblogaidd y cyfnod hwn, ac eir ati i archwilio canlyniadau ideolegol y strategaethau bathu termau amrywiol a ddefnyddiwyd gan ysgrifenwyr.

Allweddeiriau

Cerddoriaeth boblogaidd, iaith Gymraeg, newyddiaduraeth Gymraeg, diwydiant pop, ymgyrchu iaith.

Cyfeirnod

Jones, C. (2013), 'Brwydr Iaith, Brwydro Iaith: Terminoleg y byd pop Cymraeg fel dull protestio yn y 1960au a’r 1970au', Gwerddon, 16, 10-27. https://doi.org/10.61257/HNBP1708 

Nôl i erthyglau