Rhifyn 15

Chwilio am oddrychedd yn L'homme rompu gan Tahar Ben Jelloun

Yn dilyn crynodeb o ddamcaniaethau diweddar ynglŷn â gwrywdod a hunaniaeth, mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar y portread o wrywdod yn L'Homme rompu (Y Dyn Toredig), sef nofel gan un o awduron mwyaf adnabyddus Moroco, Tahar Ben Jelloun. Yn ogystal â chyfeirio at y fframwaith theoretig er mwyn dadlau bod L'Homme rompu yn arddangos sut mae pwysau disgwrsaidd yn effeithio ar unigolion, cynigir ystyriaeth fanwl o bortread gwrywdod a hunaniaeth yn y nofel, a thrwy gyfeirio at ei chwaer-nofel answyddogol, La Femme rompue (Y Ddynes Doredig) gan Simone de Beauvoir, cwestiynir i ba raddau y mae'r datganiad dirfodol am ddewis yr unigolyn a goddrychedd yn parhau i fod yn gywir yn sgil yr hinsawdd damcaniaethol cyfredol.

Allweddeiriau

Hunaniaeth, gwrywdod, Jelloun, goddrychedd, rompu.

Cyfeirnod

Smith, S. (2013), 'Chwilio am oddrychedd yn L'homme rompu gan Tahar Ben Jelloun', Gwerddon, 15, 41-59. https://doi.org/10.61257/NMMY9267 

Nôl i erthyglau