Rhifyn 15

Ailddiffinio cyfeillgarwch yn nofel Michael Roes Geschichte der Freundschaft (2010)

Mae’r erthygl hon yn dadansoddi’r modd y mae Michael Roes yn ailddiffinio cyfeillgarwch yn ei nofel Geschichte der Freundschaft (Hanes Cyfeillgarwch) drwy ddefnyddio testunau llenorion ac athronwyr eraill. Ar ôl gosod nofel Roes yn ei chyd-destun hanesyddol a diwylliannol, bydd yr erthygl yn cymharu Geschichte der Freundschaft â nofel Tahar Ben Jelloun, Partir / Leaving Tangier (2006). Mae rhan olaf yr erthygl yn dadansoddi defnydd Roes o ryngdestunau sy’n ymwneud â chyfeillgarwch rhwng dynion. Canolbwyntir ar ddefnydd Roes o elfennau a fenthycodd o destunau Friedrich Nietzsche a Michel Foucault, er mwyn yn taflu goleuni ar ymdriniaeth Roes ar thema ganolog y nofel, sef cyfeillgarwch rhwng dynion, a natur perthynas gyfunrywiol.

Allweddeiriau

Cyfeillgarwch, rhywioldeb, rhyng-ddiwyllianol, Nietzsche, Foucault.

Cyfeirnod

Dafydd, S. (2013), 'Ailddiffinio cyfeillgarwch yn nofel Michael Roes Geschichte der Freundschaft (2010)', Gwerddon, 15, 25-40. https://doi.org/10.61257/BOBZ4163 

Nôl i erthyglau