Rhifyn 14

"Ar y brig unwaith eto": siartiau pop iaith Gymraeg cynnar

Mae’r erthygl hon yn cynnwys dadansoddiad o siartiau tri phapur newydd yn ystod y flwyddyn 1972, yn canolbwyntio ar batrymau rhanbarthol a chenedlaethol, a hefyd ar berfformiad recordiau roc yn y siartiau. Dadlennir bod y siartiau o werth fel dangosydd gwerthiant tebyg, ond hefyd oherwydd eu statws fel cyfrwng i’r cyhoedd gymryd rhan yn y byd pop Cymraeg.

Allweddeiriau

Cerddoriaeth boblogaidd, siartiau pop, Cymru, diwydiant pop, papurau newydd Cymraeg.

Cyfeirnod

Jones, C. (2013), '"Ar y brig unwaith eto": siartiau pop iaith Gymraeg cynnar', Gwerddon, 14, 29-45. https://doi.org/10.61257/NMKU8005 

Nôl i erthyglau