Rhifyn 14

Iechyd ac iachawdwriaeth: meddygaeth, y corff a’r drefn foesol ym Mengâl drefedigaethol 1840-1935

Gan elwa ar haen hynod gyfoethog o archifau cenhadol Cymreig yn India’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a chychwyn yr ugeinfed ganrif, mae’r erthygl yn tynnu sylw at y modd y daeth gofal am y cleifion yn rhan ganolog, ond problemus, o’r Genhadaeth Gristnogol. Tra rhoddodd eu fferyllfeydd, eu clinigau a’u hysbytai lwyfan ac amlygrwydd i’r broses efengylaidd, ar yr un pryd agorwyd ganddynt dyndra dyfnach mewn cyswllt, er enghraifft, â gwleidyddiaeth rhyw a thrawsblannu arferion meddygol Gorllewinol mewn cymdeithas drefedigaethol.

Allweddeiriau

Cenhadon, India, crefydd, afiechyd, imperialaeth.

Cyfeirnod

Jones, A. (2013), 'Iechyd ac iachawdwriaeth: meddygaeth, y corff a'r drefn foesol ym Mengâl drefedigaethol 1840-1935', Gwerddon, 14, 8-28. https://doi.org/10.61257/HIOZ1764 

Nôl i erthyglau