Rhifyn 13

Pwysigrwydd llofnod cemegol lludw folcanig o Wlad yr Iâ: Teffra “Grákolla” o losgfynydd Torfajökull

Mae astudiaethau teffrocronoleg yn rhanbarth Gogledd yr Iwerydd ar y cyfan yn canolbwyntio ar gynhyrchion echdoriadau mawr e.e. Askja 1875, Hekla 1104 ac Öræfajökull 1362. Serch hynny, mae echdoriadau llai o faint o Wlad yr Iâ yn dechrau dod yn fwy pwysig o ran sicrhau dyddiadau mewn meysydd eraill ac mae’n bosibl eu bod yn berthnasol dros bellterau ehangach e.e. echdoriad Eyjafjallajökull yn 2010. Mae teffra Grákolla, sy’n tarddu o losgfynydd Torfajökull yn un enghraifft. Os defnyddir data’r prif elfennau yn unig, mae’r teffra yn dangos ôl bys cemegol yr un fath a theffra Landnám, sy’n tarddu o’r un system. Ond o ddefnyddio data’r elfennau hybrin, mae’n bosibl gwahaniaethu rhwng yr haenau hyn er bod ychydig o orgyffwrdd yn parhau yn y data. Wrth ddefnyddio’r wybodaeth hon i ailystyried astudiaeth flaenorol o fudo ac anheddu yn Ynysoedd Ffaröe, nodir bod perygl camddyddio digwyddiadau os yw’r broses o adnabod teffra yn dibynnu ar ddata’r prif elfennau yn unig. Mae hyd at 600 mlynedd rhwng y ddau deffra, ac er bod hwn yn gyfnod byr iawn o ran digwyddiadau daearegol, y mae’n gyfnod hir o ran camddyddio digwyddiadau dynol.

Allweddeiriau

Torfajökull, Grákolla, Domadalshraun, teffra, Landnám.

Cyfeirnod

Meara, Rh. (2013), 'Pwysigrwydd llofnod cemegol lludw folcanig o Wlad yr Iâ: Teffra “Grákolla” o losgfynydd Torfajökull', Gwerddon, 13, 66-77. https://doi.org/10.61257/MPSI8207 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0002-2583-3880
Nôl i erthyglau