Rhifyn 13

A yw peptidau bach yn ffynhonnell maeth i briddoedd a phlanhigion yr Antarctig forwrol?

Nitrogen (N) yw’r prif gemegolyn sy’n rheoli twf planhigion. Yn yr ugain mlynedd diwethaf mae ein dealltwriaeth o ba rywogaethau o N sy’n bwysig ar gyfer twf planhigion wedi datblygu’n sylweddol ond y gred yw bod rhaid i folecylau nitrogenus mawr gael eu torri i lawr i asidau amino unigol er mwyn i blanhigion a microbau eu defnyddio. Mae’r erthygl hon yn adeiladu ar ein dealltwriaeth ac yn awgrymu bod peptidau bach yr un mor bwysig fel maeth ar gyfer ffyniant microbau’r pridd ac mai’r microbau hynny sy’n ennill y gystadleuaeth am N toddedig ym mhriddoedd yr Antarctig dymherol.

Allweddeiriau

Nitrogen toddadwy, maeth planhigion, mwyneiddio microbaidd, cystadleuaeth am faeth, ymlediad planhigion.

Cyfeirnod

Roberts, R. (2013), 'A yw peptidau bach yn ffynhonnell maeth i briddoedd a phlanhigion yr Antarctig forwrol?', Gwerddon, 13, 29-47. https://doi.org/10.61257/ACYZ1143 

Nôl i erthyglau