Rhifyn 13

Sicrhau argaeledd cynnyrch cilgnowyr o’r ansawdd gorau mewn modd effeithlon

Dengys ystadegau Llywodraeth Prydain y bydd prinder cig a llaeth erbyn 2050 ar lefel byd-eang. Felly mae sicrhau diogelwch llaeth a chig i’r dyfodol, yn nhermau argaeledd a maeth, yn hollbwysig. Yn ganolog i sicrhau argaeledd a maeth llaeth a chig y mae’r cilgnowyr. Mae gan gilgnowyr bedair siambr i’w stumog, sef y reticwlwm, y rwmen, yr abomaswm a’r omaswm ac mae’r eplesu microbaidd sy’n digwydd yn y rwmen yn diffinio rhan helaeth o dwf yr anifail, ansawdd y cynnyrch a swm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr. Wrth i borthiant gyrraedd y rwmen mae micro-organebau’r rwmen yn diraddio wal y planhigyn ac yn metaboleiddio’r maetholion yng nghelloedd y planhigyn, gan gynnwys asidau amino a phroteinau i greu proteinau unigryw. I sicrhau argaeledd llaeth a chig o’r ansawdd gorau (gyda chyn lleied a phosibl o allyriadau nwyon tŷ gwydr) yn y dyfodol, mae’n gwbl angenrheidiol ein bod yn gwella ein dealltwriaeth o’r adwaith rhwng y planhigyn a’r micro-organebau, a hynny trwy ddefnyddio egwyddorion bioleg systemau a thechnoleg ‘omeg’.

Allweddeiriau

Cig, llaeth, rwmen, bacteria, protistiaid, porthiant.

Cyfeirnod

Huws, Sh. et al., (2013), 'Sicrhau argaeledd cynnyrch cilgnowyr o’r ansawdd gorau mewn modd effeithlon', Gwerddon, 13, 10-28. https://doi.org/10.61257/WQLY8597 

Nôl i erthyglau