Rhifyn 12

Astudiaeth gychwynnol o wallau iaith llafar dysgwyr Cymraeg i oedolion profiadol

Mae’r papur hwn yn seiliedig ar astudiaeth ymchwil gychwynnol â’r nod o ddiffinio ac adnabod y gwallau iaith llafar mwyaf cyffredin a wneir gan ymgeiswyr Arholiadau Defnyddio’r Gymraeg CBAC ar Lefelau Canolradd ac Uwch yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol, yn ystod y profion llafar sy’n gysylltiedig â’r arholiadau hyn. Eir ati i archwilio sut y gellir dosbarthu’r gwallau iaith a nodir, i gael gweld a yw’n bosibl defnyddio’r data canlynol i gael gweld a oes modd eu hystyried yn newidynnau ieithyddol o’r iawn, ac felly, i archwilio i’w perthynas â ffactorau allieithyddol megis cyd-destun, rhyw, oedran, magwraeth a chefndir cymdeithasol, a hynny fel rhan o astudiaeth gynhwysfawr a fydd yn seiliedig ar sampl llawer mwy o hysbyswyr.

Allweddeiriau

Cymraeg i Oedolion, caffael ail iaith, gwallau llafar; sosioieithyddiaeth.

Cyfeirnod

Brake, Ph. (2012), 'Astudiaeth gychwynnol o wallau iaith llafar dysgwyr Cymraeg i oedolion profiadol', Gwerddon, 12, 24-52. https://doi.org/10.61257/YGJK4106 

Nôl i erthyglau