Rhifyn 12

Sbwriel ar heolydd bach Cymru: Astudiaeth achos Penisa’r Waun

Casglwyd 701 o ddarnau o sbwriel fesul cilomedr o heol fach, wledig yng Ngwynedd. Lleiafswm cost ‘gudd’ flynyddol y sbwriel – sef y gost dybiedig o gasglu’r sbwriel na chesglir ar hyn o bryd – yw £11.81 y cilomedr. Amcangyfrif cost flynyddol sbwriel ar heolydd bach Cymru yw £230,000. Gellid cael gwared ar ganran helaeth o’r sbwriel dan sylw wrth gyflwyno system ernes i boteli a chaniau. Roedd 13 o gwmnïau unigol yn gyfrifol am gynhyrchu dros chwarter o’r sbwriel. Gallai Llywodraeth Cymru drefnu ad-daliad gan y cwmnïau hyn o £58,000 y flwyddyn er mwyn digolledu costau cudd y sbwriel sy’n gysylltiedig â nhw.

Allweddeiriau

Sbwriel, cost gudd sbwriel, system ernes i boteli a chaniau.

Cyfeirnod

Clubb, G. (2012), 'Sbwriel ar heolydd bach Cymru: Astudiaeth achos Penisa'r Waun', Gwerddon, 12, 10-23. https://doi.org/10.61257/QEOQ6759 

Nôl i erthyglau