Rhifyn 10/11

Dadansoddiad o ddefnydd athrawon dan hyfforddiant o gyfnewid cod mewn dosbarth uwchradd dwyieithog: Achos o Gymru

Mae'r llenyddiaeth yn cynnwys sawl astudiaeth ar gyfnewid cod. Mae’r dull cymdeithasol- ddiwylliannol o astudio rhyngweithio yn y dosbarth fel y’i disgrifir gan Mercer (2000) yn seiliedig ar ddadansoddiad manwl o ddisgwrs dosbarthiadau iaith. Nododd Mercer nifer o dechnegau iaith a ddefnyddir gan athrawon.

Mae’r erthygl hon yn dadansoddi safbwyntiau athrawon dan hyfforddiant ar gyfnewid cod fel ymarfer yn yr ystafell ddosbarth. Yn yr astudiaeth, cynhaliwyd archwiliad o ymarfer dosbarth dwy athrawes dan hyfforddiant oedd yn ddwyieithog mewn Cymraeg a Saesneg. Arsylwyd y ddwy a chofnodwyd eu haddysgu. Hefyd cynhaliwyd cyfweliadau gyda’r athrawon dan hyfforddiant er mwyn eu holi am eu hagweddau at y defnydd o’r iaith gyntaf mewn dosbarth uwchradd lle mae’r Saesneg yn ail iaith.

Dadansoddir y data a gasglwyd gan ddefnyddio dulliau dadansoddi disgwrs beirniadol. Ystyrir yn benodol i ba raddau yr oedd yr athrawon dan hyfforddiant yn llwyddo i ddysgu mewn modd oedd o fewn cyrraedd y disgyblion dwyieithog o dan eu gofal. Roedd yr achlysuron pan oedd yr athrawon yn newid o’r Saesneg i'r Gymraeg am funud i weld yn cyfateb i’r swyddogaethau cyfnewid cod a nodwyd gan Camilleri. Mae’r cyfnewid cod yn awgrymu ffordd gyfreithlon o ddefnyddio adnoddau iaith cyffredin i sgaffaldio dysgu disgyblion.

Allweddeiriau

Hyfforddiant athrawon, cyfnewid cod, dwyieithrwydd, addysg.

Cyfeirnod

Clapham, J. (2012), 'Dadansoddiad o ddefnydd athrawon dan hyfforddiant o gyfnewid cod mewn dosbarth uwchradd dwyieithog: Achos o Gymru', Gwerddon, 10/11, 158-95. https://doi.org/10.61257/MGPT9472 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0002-5890-2256
Nôl i erthyglau