Rhifyn 10/11

'Sŵn yr ymladd ar ein clyw': Cyflwyno’r Rhyfel Mawr yn y Gymraeg

Y Rhyfel Mawr oedd un o’r digwyddiadau pwysicaf yn hanes Cymru gan fod goblygiadau’r Rhyfel wedi effeithio’n drwm ar gymdeithas a diwylliant y wlad am ddegawdau. Fodd bynnag, mae hanes y blynyddoedd o ymladd yn aml wedi cael ei gyflwyno i gynulleidfa Gymraeg mewn modd gor-syml, sy’n pwysleisio erchyllderau’r Rhyfel heb ystyried y cyd- destun. Mae’r astudiaeth hon yn olrhain yn fras sut mae’r ffordd yr edrychid ar y Rhyfel wedi datblygu ym Mhrydain dros y degawdau, cyn ystyried yn fanwl rhai o’r problemau â’r cyflwyniad o’r lladdfa a gafwyd mewn rhaglenni nodwedd Cymraeg.

Allweddeiriau

Hanes Cymru yn yr ugeinfed ganrif, rhaglenni hanes, Y Rhyfel Mawr, diwylliant Cymru, hanes llafar

Cyfeirnod

Matthews, G. (2012), '"Sŵn yr ymladd ar ein clyw”: Cyflwyno’r Rhyfel Mawr yn y Gymraeg', Gwerddon, 10/11, 132-57. https://doi.org/10.61257/IIOP6609 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0002-1373-8771
Nôl i erthyglau