Rhifyn 10/11

Corona’r haul: Astudiaeth o strwythur atmosffer yr Haul

Mae’r wybodaeth sydd gennym o gorona’r haul yn seiliedig ar arsylwadau a wneir o bell. Mae’n amhosib, felly, i ddyfalu strwythur tri-dimensiwn y corona yn uniongyrchol. Mae’r erthygl hon yn crynhoi hanes ac yn rhoi braslun o astudio’r corona yng nghyswllt ei strwythur, ac yn disgrifio technegau newydd sydd am y tro cyntaf yn ein galluogi i wybod strwythur y corona mewn manylder. Rhoddir disgrifiad o’r newid yn y strwythur dros gylchred bywiogrwydd yr haul, gwybodaeth newydd am y cyswllt rhwng y maes magnetic a’r dwysedd coronaidd, a chanlyniadau newydd ar raddfeydd cylchdroi’r corona. Mae’r canlyniadau yn dangos fod modd cynnyddu’n gwybodaeth o’r corona yn fawr trwy gymhwyso’r technegau tomograffi newydd, gan alluogi ac ysgogi astudiaethau pellach o’r corona yn y blynyddoedd nesaf.

Allweddeiriau

Haul: corona, haul: maes magnetig, haul: cylchdroad, haul: alldafliadau mas coronaidd, heliosffer

Cyfeirnod

Morgan, H. (2012), 'Corona’r haul: Astudiaeth o strwythur atmosffer yr Haul', Gwerddon, 10/11, 64-82. https://doi.org/10.61257/UIGE9794 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0002-6547-5838
Nôl i erthyglau