Rhifyn 10/11

Dewis a'r dinesydd? Penderfyniadau iechyd a'u goblygiadau ar gyfer datblygu dinasyddiaeth Gymreig

Mae lle arbennig i wasanaethau iechyd fel gofod i ddiffinio perthynas priodol y dinesydd â’r wladwriaeth fodern. Bu disgwyliad i unigolion ddewis ym maes iechyd yng Nghymru a Lloegr ers yr 1980au. Yn ddiweddar cyflwynwyd brechlyn newydd i ferched sy’n amddiffyn yn erbyn rhai mathau o gancr ceg y groth. Disgwylir i rieni gydsynio dros eu merched. Mae’r papur hwn yn adrodd canlyniadau’r astudiaeth ymchwil ansoddol fwyaf yn y byd ar y pwnc . Mae’n darlunio agweddau at ddewisiadau iechyd a thrafod profiadau rhieni wrth ddod i benderfynu i gydsynio ai peidio. Dadansoddir strategaethau rhieni wrth benderfynu, er eu hansicrwydd.

Allweddeiriau

Dewis, defnyddioldeb, dinasyddiaeth, GIG, cancr.

Cyfeirnod

Davies, M. (2012), 'Dewis a'r dinesydd? Penderfyniadau iechyd a'u goblygiadau ar gyfer datblygu dinasyddiaeth Gymreig', Gwerddon, 10/11, 40-63. https://doi.org/10.61257/HUZV5860 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0002-0049-4771
Nôl i erthyglau