Rhifyn 10/11

'Un Llef Pedwar Llais': Dylanwad canu corawl ar iechyd a lles yng Nghymru

Ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae canu corawl wedi chwarae rhan flaenllaw yn y diwylliant a’r gymdeithas Gymreig. Yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, bu galw cynyddol i ystyried dylanwad lles a safon byw ar iechyd. Yn sgil hyn, mae llawer o ymchwil yn ystyried y celfyddydau cymunedol, a chanu corawl yn benodol, fel enghraifft o gyfalaf cymdeithasol, a’r modd y gall hyn ddylanwadu ar iechyd a lles personol a chymdeithasol. O ganlyniad i’r gydnabyddiaeth hon, canolbwyntia’r erthygl hon ar ymchwil i’r berthynas rhwng canu corawl – fel digwyddiad cerddorol a chymdeithasol – ac iechyd a lles cyffredinol ymhlith cantorion amatur yng Nghymru.

Allweddeiriau

canu corawl yng Nghymru, cerddoriaeth fel cyfalaf cymdeithasol, cerddoriaeth mewn iechyd a lles, buddiannau canu corawl, dylanwad canu corawl ar iechyd a lles

Cyfeirnod

Ifan, G. (2012), '"Un Llef Pedwar Llais": Dylanwad canu corawl ar iechyd a lles yng Nghymru', Gwerddon, 10/11, 15-39. https://doi.org/10.61257/BPYP3357 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0003-2196-4952
Nôl i erthyglau