Rhifyn 1

Dinasyddiaeth, Bwrdd yr Iaith, a marchnata'r Gymraeg

Mae’r papur hwn yn cynnig archwiliad cryno o’r dull a ddefnyddir gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, sef y prif gorff ar gyfer polisi a chynllunio ieithyddol yng Nghymru, o ran agweddau ar gynllunio bri a’r iaith Gymraeg. Mae’n disgrifio sut y mae datganoli, a’r adolygiad cenedlaethol cyntaf erioed yn ddiweddar, gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, o bolisi’r iaith Gymraeg, yn darparu cyd-destun uniongyrchol ar gyfer gwaith Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae’r ddogfen bolisi allweddol a ddeilliodd o’r adolygiad hwnnw, Iaith Pawb, yn cael ei dadansoddi’n feirniadol ac mae ei pherthynas â chynllunio bri yn cael ei nodi. Mae arfer Bwrdd yr Iaith Gymraeg o ran cynllunio bri yn cael ei drafod mewn perthynas â’r trafodaethau ynghylch neo-ryddfrydiaeth ac ôl-wladychiaeth mewn ffordd sy’n amlygu ffocws y Bwrdd ar ddefnyddwyr yn hytrach na dinasyddion.

Allweddeiriau

Bwrdd yr Iaith Gymraeg, marchnata, dinasyddiaeth, cynllunio iaith.

Cyfeirnod

Mac Giolla Chríost, D. (2007), 'Dinasyddiaeth, Bwrdd yr Iaith, a marchnata'r Gymraeg', Gwerddon, 1, 43-52. https://doi.org/10.61257/YBHD4005 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0001-6368-9691
Nôl i erthyglau