Rhifyn 1

D.J. a fi

Mae ‘D.J. a fi’ yn tynnu ar agweddau ar waith yr awdur Cymraeg, D.J. Williams, ac yn archwilio eu potensial i ysbrydoli’r broses o greu perfformiad cyfoes sy’n benodol i safle, a hysbysu’r dadansoddiad ohono. Mae hunangofiant Williams, Hen Dŷ Fferm, yn rhoi cipolygon unigryw ar dirwedd plentyndod, natur leoledig y cof, dramayddiaeth adrodd storïau a rôl y storïwr. Mae’r awdur yn defnyddio’r cipolygon hyn i ddatblygu ac awgrymu nifer o ddulliau ymarferol a damcaniaethol o ran defnyddio cofiant, hanes teuluol, saernïaeth ddomestig a gwybodaeth leol mewn perfformiad a ddyfeisir.

Gan gyfeirio’n helaeth at ei waith ei hun, ‘Bubbling Tom’ (2000), sef perfformiad unigol peripatetig a lwyfannwyd ym mhentref ei fagwraeth yn Swydd Lincoln wledig: taith dywysedig o amgylch y lleoedd yr oedd yn eu hadnabod yn saith oed – mae’n trafod pwysigrwydd gwaith Williams o ran ysbrydoli ffurfiau dramatig sy’n ceisio datgelu graen profiad drwy roi sylw i’r personol a’r cyfarwydd, manylion bywyd pob dydd a’i gyfansoddiad.

Allweddeiriau

D. J. Williams, Hen Dŷ Fferm, Bubbling Tom

Cyfeirnod

Pearson, M. (2007), 'D.J. a Fi', Gwerddon, 1, 13-26. https://doi.org/10.61257/MFWI2235 

Nôl i erthyglau